P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

1.   Roedd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 yn datgan mai “asedau cyhoeddus yw colegau addysg bellach, y mae eu cymunedau lleol yn ogystal â’r gymuned o staff a dysgwyr, yn berchen arnynt”. Un ymrwymiad yn y maniffesto oedd “sicrhau parch cydradd rhwng darlithwyr colegau a staff addysgu mewn ysgolion drwy gynnal y cyswllt presennol rhwng tâl ac amodau” a “chyflwyno contract Cymru gyfan ar gyfer darlithwyr addysg bellach”.

 

2.   Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 2012, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Papur Gwyn hir-ddisgwyliedig ar ei fil arfaethedig ar Addysg Bellach yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru am gyflwyno newidiadau, drwy ddeddfwriaeth, a fydd yn cael gwared ar nifer o gyfyngiadau a rheolaethau ar golegau, ac yn rhoi mwy o ymreolaeth i Benaethiaid colegau.

 

3.   Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd ar golegau i gynnal tâl cyfartal ar gyfer darlithwyr addysg bellach ac athrawon, drwy'r llythyr amodau ariannu blynyddol y bydd yn ei anfon i golegau addysg bellach yng Nghymru. Roedd llawer o benaethiaid colegau yn gwrthwynebu'r cam i gyflwyno graddfa cyflog Cymru gyfan. 

 

4.   Os na fydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â rhyw gymaint o reolaeth dros y sector addysg bellach, gall colegau ddiystyru cytundebau cenedlaethol ym maes addysg bellach, a all gynnwys graddfeydd cyflog cenedlaethol. Pe bai colegau yn diystyru'r contractau a'r graddfeydd cyflog cenedlaethol presennol, gallai graddfeydd cyflog addysgwyr amrywio'n sylweddol o goleg i goleg.  Gallai hynny effeithio ar ansawdd yr addysgu felly, oherwydd na fyddai athrawon am weithio i'r colegau hynny sy'n cynnig graddfeydd cyflog is.

 

5.   Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn nodi y caiff pŵer Gweinidogion Cymru i ddiddymu colegau ei ddisodli gan allu coleg i'w ddiddymu ei hun a throsglwyddo eiddo, hawliau a chyfrifoldebau i gorff arall. Pe bai gan golegau yr hawl i drosglwyddo eu heiddo, eu hawliau a'u cyfrifoldebau (fel y nodir yng nghynigion Llywodraeth Cymru), yna gallai colegau eu diddymu eu hunain a throsglwyddo eu hasedau i gwmni preifat cyfyngedig drwy warant.